Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog
Llywodraeth Cymru i wneud hyfforddiant sgiliau achub bywyd bryd
(ELS), gan gynnwys adfywio cardio-pwlmonaidd hanfodol (CPR) yn
rhan orfodol o’r cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd yng
Nghymru. Byddai hyn yn ffurfio rhan o’r wybodaeth
a’r ddealltwriaeth graidd y mae plant yn ei chael yn yr ysgol
ac yn creu cenhedlaeth newydd o achubwyr bywyd ledled
Cymru.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Sefydliad Prydeinig y Galon
Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf: 19 Mehefin 2012
Nifer y llofnodion: Cyflwynwyd y ddeiseb gan Sefydliad Prydeinig y Galon. Casglwyd deiseb gysylltiol tua 4,000 o lofnodion.